14/09/2023

Allan rwan, llyfr newydd Danny Robins - Into the Uncanny

Wedi glanio yn pencadlys Rhyfedd heddiw.

Edrych yn fawr i'w ddechrau heno.

Ar gael fel llyfr, kindle neu siaradlyfr.

05/08/2023

Lon Nant Iago, Llanbedrog


Llawer gwr syber a moesol, uniawn ei ymddygiad. a chredadwy ei air, a glywodd ac a welodd bethau rhyfedd o bob Iliw a llun y nos ar hyd Lon-ceryg-bychain a Lon Nant Iago yn mhlwyf Llanbedrog.
Myrddin Fardd

30/06/2023

Sdim rhyfedd bod ni methu cysgu gyda hysbysebion fel hyn!

14/06/2023

30/04/2023

Joseph Lloyd, bu farw ar ddiwrnod rhyfedd

 


Ar ddiwedd pob mis Ebrill byddwn yn troi am Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst i ymweld a bedd Joseph Lloyd. Bu farw ar ddiwrnod nad oedd yn bodoli. Yn ol ei garreg fedd bu farw y gwr ifanc 22 mlwydd oed ar y 31ain o Ebrill 1849.

Claddwyd Joseph, mab hynaf Thomas Lloyd o fferm Cwmlanerch yn y fynwent ar y 4ydd o Fai 1849 ac mae y cylchgrawn "Cenhadwr Americanaidd" yn gwrth ddweud pryd y bu farw drwy nodi mae ar y 30ain o Ebrill 1849 y bu Joseph adael y fuchedd hon.