Ar ddiwedd pob mis Ebrill byddwn yn troi am Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst i ymweld a bedd Joseph Lloyd. Bu farw ar ddiwrnod nad oedd yn bodoli. Yn ol ei garreg fedd bu farw y gwr ifanc 22 mlwydd oed ar y 31ain o Ebrill 1849.
Claddwyd Joseph, mab hynaf Thomas Lloyd o fferm Cwmlanerch yn y fynwent ar y 4ydd o Fai 1849 ac mae y cylchgrawn "Cenhadwr Americanaidd" yn gwrth ddweud pryd y bu farw drwy nodi mae ar y 30ain o Ebrill 1849 y bu Joseph adael y fuchedd hon.