15/06/2024

Adeilad newydd i'w ymchwilio ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr - My Haunted Mill @ Melin y Waun WEDI EI GANSLO

Yn anffodus cafwyd y newyddion yma gan griw My Haunted Hotel

 


Mae yna gyfle newydd i ymchwilio hen adeilad yn ardal Y Waun yn Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae'r tim sydd tu ol i My Haunted Hotel My Haunted Hotel yng Nghaer wedi agor drysau'r felin i'r cyhoedd gael ymchwilio. Mae'r gan y felin, a gafodd ei adeiladu yn 13 Ganrif dair llawr i'w archwylio gan gynnwys selar ar gyfer y rhai mwya beiddgar.

Mae modd archebu eich arhosiad dros nos ar eu gwefan ac mae'r cyfan yn cael ei ffilmio 24awr y dydd fel bod modd dal unrhwy beth rhyfedd sydd yn digwydd yno.

https://www.myhauntedmill.com/

Gwyliwch ei fideo sydd yn rhoi cyflwyniad i Felin y Waun.


14/06/2024

Llyfr i gyd fynd â chyfres newydd o Paranormal gyda Sian Eleri - UFO

 Heno (14/06/2024) bydd ail gyfres o Paranormal gyda Sian Eleri ar BBC3, BBC Cymru Wales a iPlayer.



Mae'n edrych ei bod yn ymchwilio i ddigwyddiadau anhygoel yn 1977 lle gwelwyd UFO gan nifer fawr o blant yn Broad Haven sir Benfro. Ond megis cywchwyn oedd y digwyddiadau rhyfedd yn ardal.

Mae llyfr "The Dyfed Enigma" gan Randall Jones Pugh a F.W. Holiday yn trafod ac adrodd hanes y cyfnod rhyfedd yma yn ystod y 70au.